Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 7 Hydref 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 10.17

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/1f482857-fe9d-46c1-abec-765b1fae5cde?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

MeetingTitle

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.

 

</AI1>

<AI2>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2   Deisebau newydd

 

</AI3>

<AI4>

2.1     P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.2     P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

3   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI6>

<AI7>

3.1     P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i ysgrifennu at Y Prif Weinidog, yn unol â chais y deisebwyr, yn gofyn iddo gynnal asesiad annibynnol o’r adnoddau sydd eu hangen ar y Mentrau Iaith i’w gweithredu i’w llawn botensial; ac

·         i aros am ymateb y Prif Weinidog cyn ystyried a ddylid gwahodd y deisebwyr i fynychu cyfarfod y Pwyllgor i egluro eu pryderon.

 

</AI7>

<AI8>

3.2     P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.

 

</AI8>

<AI9>

3.3     P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: 

 

·         ofyn am farn Plant yng Nghymru ar beth maent yn bwriadu ei wneud i ddatblygu’r gwaith yn y maes hwn o dan y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd; a

·         gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi pa gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd o ran argymhellion o Adroddiad Terfynol yr Uned Gyfranogi.

 

</AI9>

<AI10>

3.4     P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

 

</AI10>

<AI11>

3.5     P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ymateb i sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig ynghylch effaith bosibl ar niferoedd llai o aelwydydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad adroddiad LEASE.

 

</AI11>

<AI12>

3.6     P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth lafar mewn lleoliad anffurfiol gyda’r Ddraig Ffynci, y Comisiynydd Plant, Plant yng Nghymru a chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad i geisio gweld a ellir canfod ffordd i ddarparu llwyfan cynrychioliadol cenedlaethol parhaus ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

 

</AI12>

<AI13>

3.7     P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a

·         gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar oblygiadau’r trefniadau cyllideb newydd.

 

</AI13>

<AI14>

3.8     P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried yr anallu i ddatblygu’r ddeiseb gyda’r prif ddeisebydd.

 

 

 

</AI14>

<AI15>

3.9     P-04-397 Cyflog Byw

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am sicrwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr.

 

</AI15>

<AI16>

3.10   P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach a gwahoddiad y deisebydd ymlaen at y Gweinidog a’i swyddogion a gofyn am gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau.

 

</AI16>

<AI17>

3.11   P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd am ei farn am sylwadau’r deisebydd.

 

</AI17>

<AI18>

3.12   P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.

 

</AI18>

<AI19>

3.13   P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y Gweinidog am sylwadau’r deisebwyr; 

·         ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan roi sylw i’r ddeiseb; ac

·         anelu at gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad fel y gellir trafod y mater yn y Cyfarfod Llawn yn unol â chais y deisebwyr. 

 

</AI19>

<AI20>

3.14   P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

 

</AI20>

<AI21>

3.15   P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am ei farn am y sefyllfa bresennol; ac yna

·         aros am ganlyniadau’r adolygiad am y sefyllfa ym mis Ebrill 2015.

 

</AI21>

<AI22>

3.16   P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn bellach gan y Gweinidog yn sgil sylwadau’r deisebydd; a

·         gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb.   

 

</AI22>

<AI23>

3.17   P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

</AI23>

<AI24>

3.18   P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

 

</AI24>

<AI25>

3.19   P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

</AI25>

<AI26>

3.20   P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r pwyntiau a wnaed ar ran y deisebwyr.

 

 

 

 

</AI26>

<AI27>

3.21   P-04-552 Diogelu Plant

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd. 

 

</AI27>

<AI28>

3.23   P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb pellach y Gweinidog. 

 

</AI28>

<AI29>

3.24   P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr; a

·         gofyn am ymateb am ohebiaeth y Pwyllgor sydd heb ei hateb.

 

</AI29>

<AI30>

3.25   P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. 

 

</AI30>

<AI31>

4   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod

 

The motion was agreed.

 

</AI31>

<AI32>

3.22   P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog a’r Bwrdd Iechyd ystyried ac ymateb i farn y deisebwyr a nodwyd yn eu sylwadau, yn enwedig mewn perthynas â’r adroddiad a gynigiwyd gan yr Athro Marcus Longley. 

 

</AI32>

<AI33>

5   Gweithdrefnau’r Pwyllgor ar gyfer Trafod Deisebau

 

Ystyriodd y Pwyllgor weithdrefnau ar gyfer ystyried deisebau.  

 

</AI33>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>